Ymgynghoriad ar y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) Drafft

 

Sylwadau Cyngor Gwynedd

 

Cyffredinol

01. A fyddai'r Bil drafft yn gwella effeithiolrwydd rôl yr Ombwdsmon? Os felly, sut?

Y pŵer i gychwyn ymchwiliadau liwt ei hun a chydweithio gyda chomisiynwyr eraill

 

02. Os oes rhwystrau posibl i weithredu darpariaethau'r Bil drafft, beth ydynt? A yw'r Bil drafft yn eu hystyried yn ddigonol?

Dim yn ymwybdol o unrhyw beth yn ddarsotyngedig i unrhyw sylwadau isod

 

03. A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil drafft?

Dim y gallwn eu rhagweld ar hyn o bryd.

 

04. Ar ba gam y dylid gwerthuso effaith y ddeddfwriaeth hon?

Ar ôl y flwyddyn gyntaf.

 

Pŵer i ymchwilio ar ei liwt ei hun

05. A oes gennych unrhyw sylwadau ar y pŵer newydd yn adran 4?

Dim gwrthwynebiad sylfaenol i’r hawl yma ond rhaid sicrhau bod yr awdurdod dan sylw yn cael cyfle teg i ystyried y mater ei hun (yn enwedig o  ystyried y gall fod yn fater sydd heb gael ei ddwyn i’w sylw o’r blaen).

 

06. A yw cynnwys y pŵer hwn yn codi unrhyw ganlyniadau anfwriadol yng ngweddill y Bil drafft?

Dim y gallwn eu rhagweld ar hyn o bryd.

 

07. Â phwy y dylai'r Ombwdsmon ymgynghori o dan adran 4(2)?

Yr awdurdod perthnasol, unrhyw gorff rheoleiddio perthnasol sydd ag awdurdod i ymchwilio.

 

08. A ddylai'r Ombwdsmon gael pŵer i gychwyn ymchwiliad yn seiliedig ar gamau gweithredu a ddigwyddodd cyn i'r Ddeddf/Bil drafft gael Cydsyniad Brenhinol (gweler adran 4(4))? Os felly, a ddylai fod yna dorbwynt, fel na fydd modd i'r Ombwdsmon, wedi iddo gyrraedd y torbwynt hwnnw, barhau i gynnal ymchwiliad ei liwt eich hun?

Yn ein barn ni mae angen rhoi sylw o’i oblygiadau posib darpariaeth o’r fath o safbwynt ymchwilio i faterion lle mae’r sefyllfa bellach wedi symud yn ei blaen.  Dylid ystyried felly osod prawf yn seiliedig ar sefydlu fod y ffeithiau a’r anghyfiawnder sy’n ysgogi’r ymchwiliad yn parhau mewn bodolaeth. Mae gwerth hefyd mewn rhoi ystyriaeth o osod cyfyngiad amser.  Nid oes gwrthwynebiad i alluogi’r Ombwdsmon i fynd yn ôl i edrych ar faterion oedd yn bodoli cyn i’r Ddeddf ddod i rym ond am resymau ymarferol efallai dylid cyfyngu hynny i 12mis cyn i’r dyddiad hynny.

 

09. Pa fathau o faterion y dylid eu cynnwys yn y meini prawf ar gyfer

ymchwiliadau ar ei liwt ei hun o dan adran 5?

Budd cyhoeddus mewn ymchwilio, arwydd o fethiannau systemig  o fewn yr awdurdod neu ar draws awdurdodau sy’n achosi anghyfiawnder i unigolion.

 

10. Pa fath o dystiolaeth ddylai fod ar gael i'r Ombwdsmon i gyfiawnhau ymchwiliad ar ei liwt ei hun (gweler adran 5(2))?

 

Ni ellir gweld pam na fyddai defnyddio’r un prawf o dystiolaeth a fyddai’n cyfiawnhau ymchwiliad llawn os gwneir cwyn gan unigolyn i’r Ombwdsmon yn addas.

 

Pwy sy'n cael cwyno

11. A oes gennych unrhyw sylwadau am y diffiniad newydd o "aelod o'r cyhoedd" yn adran 7(2)?

Dim sylw

 

 

Y gofynion ar gyfer cwynion a wneir ac a atgyfeirir at yr Ombwdsmon

12. A oes gennych unrhyw sylwadau am y gofynion newydd ar gyfer cwynion a wneir i'r Ombwdsmon yn adran 8?

Caniateir  cwynion llafar o dan y model cenedlaethol o drefn gwynion sydd wedi ei mabwysiadu gan yr awdurdod,   Nid oes gwrthwynebiad i ganiatáu cwynion llafar i’r Ombwdsmon ond dylid sicrhau bod yr Ombwdsmon yn medru darparu gwybodaeth ddigonol i’r awdurdod i’w ganiatáu i ystyried y mater yn iawn.

 

13. Sut y dylai'r canllawiau arfaethedig ar gyfer gwneud cwyn i'r Ombwdsmon gael eu cyhoeddi a pha fformatau ddylai fod ar gael?

Cyn belled ag y mae’r awdurdod yn y cwestiwn byddai eu gosod ar wefan yr Ombwdsmon yn ddigonol. Ond yn amlwg dylai cyfryngau amgen fod ar gael sydd yn caniatau mynediad i eang gan ddarpar gwynwyr yn ole u anghenion.

 

Materion y caniateir ymchwilio iddynt

Dim sylwadau ar y rhan hon

 

14. A oes gennych chi unrhyw sylwadau am y ddarpariaeth newydd sy'n galluogi'r Ombwdsmon i ymchwilio i'r gŵyn gyfan pan fydd y driniaeth yn gyfuniad o ddarparwyr gwasanaethau iechyd cyhoeddus a phreifat (gweler adrannau 10(1)(d) and 10(2))?

15. A yw adran 10(2) yn ymdrin yn ddigonol ag unrhyw un sydd wedi derbyn cyfuniad o driniaeth gyhoeddus a phreifat?

16. A yw ehangu'r materion y caniateir ymchwilio iddynt yn adran 10(2) yn codi unrhyw ganlyniadau anfwriadol yng ngweddill y Bil drafft?

17. A yw'r diffiniad o "gwasanaethau iechyd preifat" yn adran 71 yn ddigon eang i gwmpasu unrhyw un sydd wedi cael cyfuniad o driniaeth gyhoeddus a phreifat?

18. A ddylai'r Ombwdsmon gael pwerau i adennill costau yr aethpwyd iddynt wrth ymchwilio i wasanaethau iechyd preifat?

19. A oes gennych unrhyw sylwadau am y diffiniad newydd o "ddarparwr gwasanaethau iechyd teulu" yn adran 71, a fwriadwyd i gwmpasu, er enghraifft, bractis cyfan o feddygon teulu yn hytrach na meddyg teulu unigol?

 

Gweithdrefn ymchwilio a thystiolaeth

20. A oes gennych unrhyw sylwadau ar y weithdrefn a bennir yn adran 16 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r weithdrefn ar gyfer cynnal ymchwiliad ar ei liwt ei hun?

Dylid sicrhau bod yr awdurdod yn cael cyfle teg (gan gynnwys amserlen realistig) i ystyried y mater  gan gadw mewn cof y mae’n debyg na fydd cwyn benodol wedi ei chyflwyno i’r awdurdod o’r blaen neu fod angen ystyried materion systemig.

 

21. A ddylai pŵer yr Ombwdsmon mewn perthynas â chael gwybodaeth, dogfennau, tystiolaeth a chyfleusterau hefyd fod yn gymwys i ymchwiliadau ar ei liwt ei hun ac ymchwiliadau i wasanaethau iechyd preifat (gweler adran 17)?

Ni ellir gweld pam y dylai fod yn wahanol.

 

Awdurdodau Rhestredig

22. A oes gennych unrhyw sylwadau ar y cyfyngiadau ar y pŵer i ddiwygio Atodlen 3 (gweler adran 30(2) yn benodol), sydd lawer yn gulach na'r cyfyngiadau yn Neddf 2005?

Dim sylwadau

 

23. A oes unrhyw gyrff eraill y dylid eu cynnwys ar y rhestr o 'Awdurdodau Rhestredig' yn Atodlen 3?

Dim sylwadau

 

Ymdrin â chwynion

24. A oes gennych unrhyw sylwadau ar adrannau 33 i 39 (sy'n adlewyrchu adrannau 16A i 16G o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban 2002)?

Byddai caniatáu i’r Ombwdsmon bennu gweithdrefn enghreifftiol, safonol  a’r pwerau cysylltiedig yn fuddiol ond yn ddarostyngedig i sicrhau bod y gofynion hynny yn rhesymol a chymesur, yn ddigon hyblyg i gymryd i ystyriaeth gwahaniaethau mewn strwythurau awdurdodau ac yn cymryd i ystyriaeth gyfyngiadau ariannol ac adnoddau.

 

 

25. A yw adran 38(b) yn ddigonol i ganiatáu i awdurdodau rhestredig

gydymffurfio â'u dyletswyddau o dan ddeddfiadau eraill, fel y dyletswyddau Rhyddid Gwybodaeth?

Ydy, cyn belled ag y medrwn weld.

 

Rhan 4: Ymchwilio i gwynion sy'n ymwneud â phersonau eraill: gofal cymdeithasol a gofal lliniarol

26. A ddylai Rhan 4 barhau i fod yn annibynnol? Neu a ddylai ymchwiliadau o'r fath gael eu dwyn o fewn y broses ymchwilio yn Rhan 3

Dim sylwadau.

 

27. Os dylai Rhan 4 gael ei dwyn o fewn Rhan 3, a oes unrhyw elfennau penodol o Ran 4 a ddylai barhau? Neu a ellir cymhwyso dull mwy cyffredinol?

Dim sylwadau.

 

Rhan 5: Ymchwiliadau: cwestiynau atodol

28. A oes gennych unrhyw sylwadau ar adrannau 62, 63 a 64, sy'n darparu ar gyfer cydweithio a chydlafurio â Chomisiynwyr penodol ac Archwilydd Cyffredinol Cymru?

Mae angen ystyried ail-ddrafftio adrannau 62 a 63.  Nid yw’n eglur o gwbl beth yw’r gwahaniaeth rhwng “Chydweithio” a “Chydlafurio” gyda’r Comisiynwyr ac o dan ba amgylchiadau y byddai naill adran yn berthnasol.

 

Mae’r adrannau yn gosod rheidrwydd ar yr Ombwdsmon i gysylltu gyda’r Comisiynwyr ond dim ond os yw o’r farn fod hynny’n briodol.  Os yw mater yn debyg o fod yn berthnasol i Gomisiynydd yn ogystal â’r Ombwdsmon byddai’n well fod rhaid ymgynghori.  Fel hynny byddai’n rhoi cyfle i’r Comisiynydd ystyried os yw’n fater iddo ef/hi hefyd ac yn medru osgoi mwy nag un ymchwiliad i’r un mater petai’r Comisiynydd eisoes yn delio a’r mater.

29. A ddylai adrannau 62 a 63 gynnwys unrhyw gomisiynwyr y gallai'r Cynulliad eu sefydlu

Mae hyn yn ymddangos yn rhesymol

 

30. A oes unrhyw newidiadau technegol pellach sydd eu hangen yn Rhan 5 o'r Bil drafft, er mwyn adlewyrchu'r materion ehangach y gellir ymchwilio iddynt?

Dim sylwadau

 

Penodi etc

31. Mae darpariaethau paragraffau 5 i 8 o Atodlen 1 (anghymhwyso) yn adlewyrchu'n bennaf y darpariaethau presennol yn Neddf 2005. A oes angen diweddaru'r darpariaethau hyn?

Dim sylwadau

 

32. Mae Paragraff 1 o Atodlen 1 yn darparu bod person sydd wedi peidio â dal swydd Ombwdsmon neu swydd Ombwdsmon dros dro wedi'i anghymhwyso o restr o rolau (a restrir ym mharagraff 7(1)) am gyfnod o ddwy flynedd. A yw'r cyfnod o ddwy flynedd yn briodol?

Dim sylwadau

 

33. A oes gennych sylwadau am y materion a gynhwysir yn y "swydd â thâl" ym mharagraff 8 o Atodlen 1?

Dim sylwadau

 

Goblygiadau ariannol

34. A oes gennych farn am oblygiadau ariannol y darpariaethau newydd yn y Bil drafft?

Dim heblaw am sylwadau sydd eisoes wedi eu cynnig uchod.

 

Sylwadau eraill

35. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil drafft neu unrhyw ddarpariaeth benodol ynddo?

 

 

15/01/16